Birleşik Krallık'ta Cardiff University Üniversitesinde Cymraeg a Hanes - BA (Hons) Eğitimi Alın

Cymraeg a Hanes - BA (Hons)

Birleşik Krallık

Ne öğreneceğim?

Mae ein gradd BA mewn Cymraeg a Hanes ddynamig yn caniatáu ichi astudio'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant wrth archwilio a deall cyfnodau allweddol mewn hanes.Bydd eich modiwlau Cymraeg yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol hanfodol. Byddwch yn datblygu eich diddordebau mewn amrywiaeth o bynciau fel llenyddiaeth drwy'r oesoedd ieithyddiaeth, cynllunio ieithyddol a chaffael iaith treftadaeth ac ysgrifennu gweithredol. Mae agwedd ryngddisgyblaethol gref i'r ddarpariaeth: gallwch ddewis modiwlau sy'n ystyried y Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant mewn amrywiaeth o gyd-destunau hanesyddol a chyfoes.Bydd eich astudiaethau hanes yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth feirniadol o strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymdeithasau’r gorffennol. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu amrywiaeth anhygoel o gymdeithasau, cyfnodau a lleoedd ledled Ynysoedd Prydain, Ewrop (dwyrain a gorllewin), Affrica, Asia, a chyfandiroedd America. Cewch y cyfle i astudio meysydd sydd wedi hen ennill eu plwyf, megis hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol a rhywedd, neu i archwilio meysydd a allai fod yn newydd i chi, megis hanes amgylcheddol neu hanes digidol. Byddwch yn meithrin sgiliau deallusol gwerthfawr, gan gynnwys y gallu i asesu tystiolaeth yn feirniadol, gwerthuso gwahanol ddehongliadau o'r dystiolaeth, llunio dadleuon yn seiliedig ar dystiolaeth, a mynegi barn yn gref ar lafar ac yn ysgrifenedig.Byddwch chi'n dysgu mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol sydd wedi’i deilwra i chi, ac rydym yn rhoi pwyslais cryf ar gyfarfodydd unigol un-i-un ar adegau allweddol drwy gydol y radd. Mae gan eich darlithwyr lawer o arbenigedd ar draws gwahanol themâu, cyfnodau ac ardaloedd a byddan nhw’n cyflwyno’r syniadau diweddaraf yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys eu hymchwil arloesol eu hunain.**Nodweddion Unigryw’r Rhaglen****Astudio gyda brwdfrydedd**Archwiliwch eich diddordebau, gyda phynciau sy'n amrywio o gaethwasiaeth yn America i hanes yr Undeb Sofietaidd a hanes Japan.**Cymuned lewyrchus**Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg.**Dysgu gan arbenigwyr**Manteisiwch ar addysgu a chymorth gan staff gweithgar ym maes ymchwil sy'n cael eu parchu'n rhyngwladol yn eu meysydd pwnc.**Cysylltiadau’r brifddinas**Mae ein lleoliad dinesig yn ehangu ac yn cefnogi ein cysylltiadau â sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, treftadaeth a chyfryngau.**Cymraeg ar waith**Magu eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.

Hangi bölümdeyim?

School of Welsh

Öğrenim seçenekleri

Full Time (3 yıl)

Okul ücreti
£25,450.00 (TRY 1,129,354) Yıllık
Bu ücret sabittir

*Gösterilen fiyat gösterge amaçlıdır, lütfen kurum tarafından kontrol ediniz

Başlangıç tarihi

Eylül 2027

Yer

Main Site - Cardiff

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

Seçtiğiniz bölüme bağlı olarak farklı IELTS koşulları olabilir.

Add to my favourites

Product of

IDP öğrenci topluluğunu keşfettin mi?

Önceki öğrencilerin deneyimlerini ilk ağızdan dinle, gruplara katıl ve çok daha fazlasını öğrenci topluluğumuzla birlikte keşfet!

Öğrenci Topluluğu
cta banner image

Cardiff University Hakkında

Cardiff University’deki programlar, alanında önde gelen akademisyenlerce yürütülür; öğrenciler modern, uzmanlaşmış öğrenim olanaklarından faydalanır.

  • Galler’in tek Russell Group üniversitesi
  • En iyi 180 üniversite arasında (QS, 2027)
  • 5.000 uluslararası öğrenci
  • Uygun uluslararası öğrenciler için konaklama garantisi

İletişime geç