Birleşik Krallık'ta Cardiff Metropolitan University Üniversitesinde Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda SYBC (Dwyieithog) (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BA (Hons) Eğitimi Alın

Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda SYBC (Dwyieithog) (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BA (Hons)

Birleşik Krallık

4

Ne öğreneceğim?

Mae hon yn rhaglen pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn o astudiaeth sylfaenol ar ein campws yn Llandaf ac yn arwain yn uniongyrchol at y cwrs gradd, a fydd yn cael ei addysgu ar ein campws yng Nghyncoed. Mae ein blwyddyn sylfaen yn cynnig y cyfle i ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch hyder, cyn i chi symud ymlaen i gam un eich gradd anrhydedd. Cyflwynir y flwyddyn sylfaen drwy gyfrwng y Saesneg gyda myfyrwyr yn gallu cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir cynnal cyfarfodydd gyda thiwtoriaid personol drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.Gweithio gyda phlant o’u genedigaeth hyd at wyth oed a’u teuluoedd.Ar y radd hon, byddwch yn dod yn ymarferydd blynyddoedd cynnar medrus iawn. Byddwch yn ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (SYBC) cymwysedig, gan ennill profiad seiliedig ar waith ymarferol wedi’i gyfuno â gwybodaeth ddamcaniaethol a pholisi sy’n ofynnol ar gyfer ymarfer effeithiol yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys rheoli lleoliadau blynyddoedd cynnar.Rydym yn cynnig rhaglen radd BA (Anrh) arloesol mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol sy’n cynnig ystod amrywiol o fodiwlau ymarfer a theori perthnasol.Elfen sylfaenol o’r radd arloesol hon yw’r profiad ymarferol wedi’i asesu y byddwch yn ei gwblhau er mwyn ennill SYBC. Mae hyn yn cynnwys lleoliad yn ystod pob blwyddyn o astudio mewn amrywiaeth o leoliadau perthnasol megis ystafelloedd dosbarth y Cyfnod Sylfaen, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant ac ysgolion cynradd.Byddwch yn treulio amser yn ein darpariaeth Ysgol Goedwig ar y campws, lle byddwchyn gallu cael profiad uniongyrchol o gyfleoedd dysgu awyr agored i blant y blynyddoeddcynnar. Wrth gwblhau'r radd, byddwch hefyd yn gallu cyflawni cymwysterau ychwanegol, gan wella eich sgiliau cyflogadwyedd. Dyma'r Wobr Lefel 2 Chwarae Cymru mewn Ymarfer Gwaith Chwarae (L2APP) a'r Dystysgrif Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth sy'n cael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.Yn ystod y radd, cewch eich addysgu gan academyddion gweithgar ym maes ymchwil ac arbenigwyr blynyddoedd cynnar, gan gynnwys darlithwyr gwadd o leoliadau cysylltiedig, megis Chwarae Cymru a Tŷ Hafan, i ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu ychwanegol.Trwy ennill gradd sydd ar flaen y gad o ran newidiadau yn y sector, bydd eich cymhwyster yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ddarpar gyflogwyr yn y maes hwn. Mae’r radd hon hefyd yn darparu sylfeini cadarn ar gyfer ystod o yrfaoedd cysylltiedig fel gwaith cymorth i deuluoedd, iechyd a gofal cymdeithasol a gwaith cymunedol.Mae dau lwybr astudio ar gael:- BA (Hons) Early Years Education and Professional Practice with Early Years Practitioner Status (EYPS)- BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog)

Hangi bölümdeyim?

Cardiff School of Education and Social Policy

Öğrenim seçenekleri

Full Time (4 yıl)

Okul ücreti
Bilgi mevcut değil

Lütfen enstitü tarafından kontrol ediniz

Başlangıç tarihi

Eylül 2026

Yer

Cardiff Met - Llandaff

Western Avenue,

Cardiff,

South Glamorgan,

CF5 2YB, Wales, United Kingdom

Seçtiğiniz bölüme bağlı olarak farklı IELTS koşulları olabilir.

Add to my favourites

Product of

IDP öğrenci topluluğunu keşfettin mi?

Önceki öğrencilerin deneyimlerini ilk ağızdan dinle, gruplara katıl ve çok daha fazlasını öğrenci topluluğumuzla birlikte keşfet!

Öğrenci Topluluğu
cta banner image

Cardiff Metropolitan University Hakkında

Cardiff Met mezunlarının %96,3'ü mezun olduktan sonraki 15 ay içinde tam zamanlı işe giriyor veya daha ileri düzeyde eğitim görüyor.

  • Birleşik Krallık’ta uluslararası öğrenciler arasında 8. favori
  • Cardiff, Birleşik Krallık’ın en davetkar şehri
  • 100'den fazla ülkeyi temsil eden çeşitli öğrenci topluluğu
  • Burslar ve hibeler mevcut

İletişime geç