Birleşik Krallık'ta Cardiff University Üniversitesinde Cymraeg ac Athroniaeth - BA (Hons) Eğitimi Alın

Cymraeg ac Athroniaeth - BA (Hons)

Birleşik Krallık

1

Ne öğreneceğim?

Yn ein BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth, byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant, ac yn ymgysylltu â chwestiynau athronyddol allweddol ar draws ystod eang o bynciau a thraddodiadau. Byddwch yn cyflawni lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol sydd wedi'u datblygu'n dda sy'n berthnasol i'r Gymru fodern. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl-agored a chydweithredol, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol. Mae opsiynau modiwlau yn caniatáu ichi archwilio pynciau megis ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol.Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn athroniaeth foesol a hefyd yn astudio epistemoleg, athroniaeth y meddwl, ac athroniaeth wleidyddol. Mae cyfleoedd i astudio meysydd fel estheteg, athroniaeth ffeministaidd a ffenomenoleg ar gael drwy gydol eich astudiaethau.Byddwch yn dod i werthfawrogiad dyfnach o oblygiadau meddwl athronyddol, gan roi cyswllt clir rhwng damcaniaethau a'u cymhwysiad i chi. Rhoddir pwyslais ar hyn yn eich blwyddyn olaf, pan fyddwch yn cymryd rhan mewn prosiect i gymhwyso ymchwil athronyddol i ddatblygu polisïau neu strategaethau sy'n anelu at ddatrys problem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn.Yn ystod y radd, cewch y cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol, i fagu eich hyder a'ch sgiliau proffesiynol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â'r Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth.Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu, a meddwl yn feirniadol. Byddwch yn ymwybodol o’r heriau moesegol, cymdeithasol ac ieithyddol sy’n wynebu cymdeithas a diwydiant modern, a bydd gennych y syniadau a’r hyder sydd eu hangen i’w datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.**Nodweddion Unigryw’r Rhaglen****Meddyliwch dros eich hun**Ymdriniwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau, data a chwestiynau anodd.**Cymraeg yn y gweithle**Magu eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.**Cyfathrebu'n effeithiol**Datblygwch sgiliau dwyieithog wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a'ch dadleuon.**Dyfodol gwell i bawb**Cymhwyso ymchwil athronyddol i ddatrys problemau cymdeithasol y byd go iawn neu ymgysylltu â chymunedau lleol ynglŷn â’ch astudiaethau.**Dilynwch eich diddordebau**Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg ac amrywiaeth o ddadleuon athronyddol hanesyddol a newydd.

Hangi bölümdeyim?

School of Welsh

Öğrenim seçenekleri

Full Time (3 yıl)

Okul ücreti
£25,450.00 (TRY 1,129,354) Yıllık
Bu ücret sabittir

*Gösterilen fiyat gösterge amaçlıdır, lütfen kurum tarafından kontrol ediniz

Başlangıç tarihi

Eylül 2027

Yer

Main Site - Cardiff

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

Seçtiğiniz bölüme bağlı olarak farklı IELTS koşulları olabilir.

Add to my favourites

Product of

IDP öğrenci topluluğunu keşfettin mi?

Önceki öğrencilerin deneyimlerini ilk ağızdan dinle, gruplara katıl ve çok daha fazlasını öğrenci topluluğumuzla birlikte keşfet!

Öğrenci Topluluğu
cta banner image

Cardiff University Hakkında

Cardiff University’deki programlar, alanında önde gelen akademisyenlerce yürütülür; öğrenciler modern, uzmanlaşmış öğrenim olanaklarından faydalanır.

  • Galler’in tek Russell Group üniversitesi
  • En iyi 180 üniversite arasında (QS, 2027)
  • 5.000 uluslararası öğrenci
  • Uygun uluslararası öğrenciler için konaklama garantisi

İletişime geç