Birleşik Krallık'ta Swansea University Üniversitesinde Cymraeg gyda Blwyddyn mewn Gwaith (llwybr i fyfyrwyr iaith gyntaf) - BA (Hons) Eğitimi Alın

Cymraeg gyda Blwyddyn mewn Gwaith (llwybr i fyfyrwyr iaith gyntaf) - BA (Hons)

Birleşik Krallık

Ne öğreneceğim?

Mae’r cwrs unigryw yma yn rhoi’r cyfle euraid i fyfyrwyr dreulio 9-12 mis yn y byd gwaith ac ennill profiadau a sgiliau amhrisiadwy. Mae’n gwrs pedair blynedd, gyda myfyrwyr yn treulio eu trydedd flwyddyn mewn swydd. Gall y lleoliad fod yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.Beth yw dylanwad rhyngwladol y Gymraeg? Sut mae’r iaith yn gyfrwng diwylliant? Pa mor bwysig a pherthnasol yw creu cynnwys drwy gyfrwng iaith leiafrifol yn yr oes sydd ohoni? Dyma rai o gwestiynau mawrion BA Cymraeg (Iaith Gyntaf) Prifysgol Abertawe.Dewch i ymgolli mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg, ochr yn ochr â dysgu am hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yr iaith.Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth o'r traddodiad barddol canoloesol i ganeuon protest modern.Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, sosioieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr.Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan agor y drws at nifer fawr o yrfaoedd amrywiol.**Pam Cymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf) yn Abertawe?**Mae gradd BA Cymraeg o Brifysgol Abertawe yn bwrw golwg eang ar y Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, gan drafod polisiau iaith, llenyddiaeth y byd a chyfieithu.Mae’r modiwlau wedi’u cynllunio gan ymchwilwyr uchel eu parch yn eu meysydd arbenigol, gyda golwg ar sicrhau eich bod yn meithrin sgiliau trosglwyddiadawy fydd o ddefnydd i chi ym myd gwaith.**Mae Astudiaethau Celtaidd yn Abertawe:**• 2il yn y DU yn gyffredinol (Times Good University Guide 2025)Eich Profiad Cymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf)Mae pob cam o’n cwrs gradd BA Cymraeg (Iaith Gyntaf) wedi’i gynllunio i sicrhau eich bod yn datblygu’n gyfathrebwyr hyderus ac yn ymchwilwyr craff.Mae teilwra ein modiwlau a’n hasesiadau i’ch galluogi i feithrin y sgiliau proffesiynol y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn cydweithio gyda sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt er mwyn sicrhau bod ein cwrs gradd yn ateb y galw.Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddulliau asesu sydd wedi’u cynllunio’n ofalus er mwyn eich galluogi i ennyn sgiliau bydd yn eich helpu chi i gyflawni eich nodau gyrfa neu'ch uchelgeisiau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.Fel un o’n cymuned ddysgu, byddwch yn derbyn cymorth addysgol heb ei ail.

Hangi bölümdeyim?

College of Arts and Humanities

Öğrenim seçenekleri

Full Time (4 yıl)

Okul ücreti
£18,700.00 (TRY 829,820) Yıllık
Henüz onaylanmamış geçici ücrettir

*Gösterilen fiyat gösterge amaçlıdır, lütfen kurum tarafından kontrol ediniz

Başlangıç tarihi

Eylül 2027

Yer

Singleton Park Campus

Singleton Park,

Swansea,

SA2 8PP, Wales, United Kingdom

Full Time (4 yıl)

Okul ücreti
Bilgi mevcut değil

Lütfen enstitü tarafından kontrol ediniz

Başlangıç tarihi

Eylül 2027

Yer

Singleton Park Campus

Singleton Park,

Swansea,

SA2 8PP, Wales, United Kingdom

Giriş koşulları

Uluslararası öğrenciler için

Access to Humanities Course

Seçtiğiniz bölüme bağlı olarak farklı IELTS koşulları olabilir.

Add to my favourites

Product of

IDP öğrenci topluluğunu keşfettin mi?

Önceki öğrencilerin deneyimlerini ilk ağızdan dinle, gruplara katıl ve çok daha fazlasını öğrenci topluluğumuzla birlikte keşfet!

Öğrenci Topluluğu
cta banner image

Swansea University Hakkında

Swansea University, mükemmel öğretim kalitesi, dünya çapında araştırmaları ve üstün öğrenci desteğiyle öne çıkan iki kampüslü bir üniversitedir.

  • Araştırma kalitesinin %86’sı dünyada öncüdür (REF 2021)
  • Dünyada İlk 350’de (QS World University Rankings 2027)
  • Öğrencilerin %95'ü okulu tavsiye ediyor (Uni Compare 2026)
  • BK’de eğitim almak için en güvenli 7’nci şehir (CUG, 2024)

İletişime geç