Birleşik Krallık'ta Bangor University Üniversitesinde Cymraeg (Welsh) and Music - BA (Hons) Eğitimi Alın

Cymraeg (Welsh) and Music - BA (Hons)

Birleşik Krallık

1

Ne öğreneceğim?

Mae cysylltiad clos rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. O gyfuno'r ddau bwnc cewch eich arfogi â gwybodaeth o iaith, llenyddiaeth a sgiliau cerddorol sy'n briodol i amrywiaeth dda o yrfaoedd gan gynnwys y sectorau celfyddydol a threftadol ac addysg a darlledu. Mae cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau eraill y myfyrwyr a bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddarlithio. Mae Cymraeg ym Mangor hefyd yn llawer mwy na chwrs gradd. Mae'n becyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broffesiynol a boddhaus wrth greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.Dyma gwrs sy’n caniatáu i chi fwynhau holl gyfoeth llenyddiaeth, drama a diwylliant creadigol y Gymraeg ochr yn ochr â holl gyfoeth y byd cerddorol yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’n gyfuniad deinamig o’r creadigol, yr ymarferol a’r academaidd a hynny mewn dau faes sydd â chysylltiad clos a chyffrous â'i gilydd. Gall myfyrwyr sy’n mwynhau gweithgarwch creadigol ddilyn gweithdai barddoniaeth a rhyddiaith yn y Gymraeg, ac ar yr un pryd ddilyn modiwlau cyfansoddi cerddoriaeth. Mae hwn yn llawer mwy na chwrs gradd: mae'n cynnig pecyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan greadigol yn niwylliant cyfoes Cymru. Cofiwch hefyd fod cymuned ddiwylliannol ddeinamig Prifysgol Bangor yn rhoi cyfle i chi ymuno mewn corau, bandiau a cherddorfeydd, yn ogystal â pherfformio mewn eisteddfodau a gwyliau diwylliannol. Mae gan Brifysgol Bangor ddwy neuadd gyngerdd, pedair stiwdio electroacwstig, ac mae Canolfan Pontio yn cynnal digwyddiadau lu ym meysydd drama, llenyddiaeth, ffilm a cherddoriaeth.O gyfuno Cymraeg a Cherddoriaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau cerddorol sy'n briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sgiliau dadansoddol newydd er mwyn ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth a cherddoriaeth, ac fe welwch hefyd berthnasedd y traddodiad Cymraeg i rai o ffurfiau diwylliannol pwysicaf y byd, gan ystyried sut mae llenorion a cherddorion wedi ymateb i ofynion yr oesoedd. Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennu'n hyderus ac yn effeithiol yn y Gymraeg, i gyfieithu a sgriptio ac o berfformio, cyfansoddi a defnyddio cerddoriaeth yn y gymuned, i ddysgu sgiliau oesol harmoni a gwrthbwynt. Mae amrywiaeth a chyfoeth y cwrs gradd hwn yn eithriadol o werthfawr, ac mae'r ddau bwnc yn gwir gyfoethogi ei gilydd.Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu Music (with Foundation Year) W30F.

Hangi bölümdeyim?

School of Welsh

Öğrenim seçenekleri

Full Time (3 yıl)

Okul ücreti
£18,000.00 (TRY 798,757) Yıllık
Accommodation -Rent for premium studios £8,580.71 (approx. £205 per week) International Experience Year or a Placement Year - 1350

Bu ücret sabittir

*Gösterilen fiyat gösterge amaçlıdır, lütfen kurum tarafından kontrol ediniz

Başlangıç tarihi

Eylül 2026

Yer

Bangor University - Main Campus

Bangor Main campus,

Bangor,

Gwynedd,

LL57 2DG, Wales, United Kingdom

Full Time (3 yıl)

Okul ücreti
Bilgi mevcut değil

Lütfen enstitü tarafından kontrol ediniz

Başlangıç tarihi

Eylül 2026

Yer

Main Site

Bangor University,

Bangor,

Gwynedd,

LL57 2DG, Wales, United Kingdom

Seçtiğiniz bölüme bağlı olarak farklı IELTS koşulları olabilir.

Add to my favourites

Product of

IDP öğrenci topluluğunu keşfettin mi?

Önceki öğrencilerin deneyimlerini ilk ağızdan dinle, gruplara katıl ve çok daha fazlasını öğrenci topluluğumuzla birlikte keşfet!

Öğrenci Topluluğu
cta banner image

Bangor University Hakkında

Bangor’un programlara özel seçkin tesisleri ve tutkulu akademik kadrosu, tüm öğrenciler için zenginleştirici bir eğitim programı sunar.

  • Çeşitli saygın program seçenekleri
  • Her bölüme uygun kapsamlı tesisler
  • Tüm öğrenciler için etkileyici bir destek ağı
  • Büyük şehirlere kolay ulaşım ve doğal güzellikler

İletişime geç